dros

30.5.05

 

???









[gol: methu cael gwared â'r gagendor mawr (ddim yn dallt y côd, natch), sori...]







OK...Voldo's just retarded, but he also happens to be the funniest damn video game character EVER! Your unconventional humor and love for the retarded makes you the perfect Voldo. Unexplained behavior, interesting clothing, and a wicked sense of humor is what makes you the life of any party! In the game, Voldo happens to be blind, deaf, and mute. Through your eagerness to make people laugh, you may hurt people a long the way due to lack of senses. Be careful not to bash on other wierdos, and you'll be everybody's favorite character.
Which Soul Calibur character are you?
this quiz was made by david park

26.5.05

 

rhywbeth newydd

www.selfportraitday.com

ffordd gret i ffeindio blogs newydd...

23.5.05

 

a cyn i fi ddiflannu am sbel......

(arholiadau, see)

Gwefan llawn mp3s byw gan Tori Amos - gan gynnwys lot fawr iawn o covers prin (mae 'Can't Get You Out Of My Head' lan erbyn heddi! ww!) (via popjustice)

Dj BC presents The Beastles - mashyp o'r Beasties a'r Beatles! dwin dal i weithio'n ffordd drwy hwn, ddim yn siwr os ydio'n dda i gyd trwodd. ta beth. (hwn via al4ie.com hefyd.)

[gol: ma fe'n oce. ma'r 'cymysgeee' braidd yn chêp a diflas, ond ma fe'n entertaining fel fersiwn llai da o'r Grey Album. ac o ystyried nad ydw wir yn arsed i wrando ar y beasties dyddie 'ma, a bo fi'n blino ar y beatles weithiau, mae'n arbed amser...]

cofiwch hefyd i sticio at bbc 2 heno. How Art Made the World a Catterick: bruluant.

tata am rwan...

 

:(

Yn dilyn y stori isod am Bambi druan, ffeindies i hwn ar flog alfie (cymedrolwr/y brêns tu ôl moblog):

"Junkies' Evil Badger Trade"

22.5.05

 

bandflog

dau fand dwi di bod yn gwrando'n ddi-stop arnyn nhw yn ddiweddar:

1. The Decembrists - er nad ydwi dal yn siwr pwy y'n nhw: ddois i ar draws mp3s gan eu prif leisydd, Colin Meloy, pan ryddhaodd e ep o b-sides Morrissey. dim ond mil o gopiau sy'n bodoli (rhywun isio prynu un i fi?) - ond ges i afael ar gwpwl o mp3s yma ac acw, a dwi'n dwlu arnyn nhw. (Os fyddai byth yn ffigro mas sut i 'hostio' mp3s, nai roi mwy i fyny - dwi'n gorfod dibynnu ar be dwi'n ei ffeindio ar wefannau eraill ar hyn o bryd. rhywun? wedi gwglo &c)



Ta beth - dyma gwpwl o mp3s o 3hive: gobeithio bo nhw'n plesio...

===============================================



2. White Magic - nes i ddechrau edefyn (byr-ei-fywyd) am hwn ar y maes. Grwp o Brooklyn gwrddes i â nhw pan o'n nhw'n aros yng Nghaergrawnt - roedd ffrind i ni'n ymuno â nhw i chwarae'r gitar yn eu gig yn All Tomorrow's Parties (co fe, fan hyn.) Sdim llawer o wybodaeth am y band, fel ag y maen nhw - ond mae Mira Billotte (sy'n canu a sgrifennu'r rhan fwyaf o'r caneuon) yn sort-of-cyn aelod o Quix*o*tic, hefyd yn actio mewn ffilmiau (rhai braidd yn artsy), ac yn gyffredinol dalentog a thlws...

ta beth: co chi mp3 o 'Keeping the Wolves From The Door'

a Biog bach.

21.5.05

 

yr hen a wyr; yr ifanc, wel, ma nhw'n gorfod eistedd ar lawr, am nad oes ganddyn nhw gadeiriau.a fydd dim chwaith, tan iddyn nhw ddysgu "sit" i barchu

Dyma'r edefyn mwya unintentonally hilarious (ac annwyl mewn ffordd) dwi wedi weld ar y maes am sbel: Cadeiriau Panty. *pen mewn dwylo*

 

20.5.05

 

\m/ \m/ \m/ \m/


un peth arall: ddes i ar draws peth diddorol tra'n edrych ar Gawker ddoe (linc i'r stori yma.)

Newyddiadurwr o Brooklyn sydd wedi bod yn ysgrifennu ebyst i Saiihtam (o'r band Norwyaidd, MYSTICUM) ym, ar ran "Lance", gweithiwr yn Subway a Brenin Metal Du yn Gary, Indiana.

"The Black Metal Dialogues"

 

o_O

mwy o straeon twym-galon gan manchester-online :''''''''(

19.5.05

 

newch ffafr

â chi eich hun. ffeindiwch eich hen gopi o 'ten' gan pearl jam, trowch e lan a wigo mas am sbel. os oes crys chec hambonaidd a shorts mawr efo chi, gret - iwsiwch nhw'n gall, ddo.

fideo fan hyn (ma crowd-surf montage i 'alive' \m/).

18.5.05

 

gwastraffu amser cinio:

Cwisyn "How art made the world" - rhagor am hyn wedyn.

Jeff Porcaro: y drymiwr ddaru farw mewn 'bizarre gardening accident'

Crime Library (i ddeffro'r nansi dryw. dwi'n adolygu Sickert ar hyn o bryd. ei ddarluniau, wrth gwrs, a nid y conspirasi theoris...)

musicalbear - listings llundain, brighton, mp3s, adolygiadau etc

the superficial (am y ffics dyddiol o lindsay lohan/paris hilton)

colofn newydd Tristan Taormino yn y Village Voice

17.5.05

 

cyfarfod rhyfedd...

gesi fy nghyfarfod cyntaf fel aelod o'r Emmanuel Picture Guild heddiw - sy'n gyfrifol am brynnu darluniau i gasgliad parhaol y coleg. yn bresennol: llond llaw o ddynion barfog yn drewi o bibau; rhyw ddynes oedd yn edrych fel tase hi di gorchuddio'i hun mewn glud a rhedeg trwy siop yma a, sioc! horer!, yn ffresh off y teli: yr 'hanesydd celf'/housewives favourite, Dr Nigel Spivey...



do'n i erioed wedi siarad efo'r boi, ac yn gyson di ceisio ei anwybyddu pan oedd o'n tor-heulo yn ei drons yng ngardd gefn fy nghymdogion. erbyn hyn, fodd bynnag, mae'n nos lun ni'n anghyflawn a gwag heb installment arall o'i raglen How Art Made The World (adolygiad da iawn yma - lawr y dudalen tua hanner ffordd), law yn llaw â pyrfio arno'r diwrnod wedyn ar top table, yn bwyta salad, ac yn rhedeg ei fysedd trwy'i wallt (sydd, gyda llaw, wedi ei highlightio yn broffesiynol dyddie 'ma). ta beth. y brif drafodaeth ar yr agenda oedd dechrau chwilio am artist i beintio portread o'r meistr i'w roi yn y neuadd fwyta. ein prif broblem? mae'r boi yn, wel, wirioneddol hyll:



(yr unig lun i mi allu ei ffeindio ohono ar y we. mae'n flattering iawn, chwarae teg...)

unrhyw gynnigion?

16.5.05

 

wythnos neu ddwy

sdim yn hir i fynd gen i cyn yr arholiadau, rwan: y pecyn adolygu erbyn hyn wedi ehangu i gynnwys twb o iogwrt cneuen goco rachel's, compilasiwn 'indie-pop' rough trade a ffelt pens (am heno, o leia). ma pobol yn crio yn y llyfrgelloedd (fues i bron â gwneud heddiw, ond am nad oeddwn i'n cael fy ffordd fy hun, nid am fy mod i'n ypset, natch...), yn reslo dros y copi ola o 'orientalism' ac yn bangio drysau borders ar ôl iddo fo gau yn sgrechian "have you no compassion?". mae'n dechrau mynd braidd yn annioddefol yma. di ddim hydnoed yn braf...



booo-ring...

11.5.05

 

reeit...

mae'r diwrnodau'n dechrau llenwi efo mwy a mwy a mwy o weithgareddau constructive (hoho! pwn! dwi di bod yn adolygu hanes pensaerniaeth! dwi rili yn 'cracio', fel ma nhw'n dweud, 'fy hun lan'...) - ond ges i ddigon o amser heddiw i gael cwrdd â 'hen' ffrind sy di graddio ers blwyddyn. mae'n gweithio rwan i'r Erotic Review (ychwanegwch 'the troubled' os chisio). mi fu gen i un ffrind yn gweithio yno am sbel (mae'n debyg ei fod o wedi diflannu erbyn hyn: diflannu go iawn, hynny yw. er, ma na si mai rhedeg clwb fetish yn islington mae e.) oedd hefyd yn rhedeg y nosweithiau 'mic-agored' mwya shambolic i fi rioed ddod ar eu traws, yn y portland 'slawer dydd.
eeeniwe, 'blaw bo hyn wedi dechrau neud i fi bendwmpian am 'lle ma'r holl bobol secsi, hwyl, peryglus wedi mynd?' (heblaw low. dwi'n gwbod lle ti'n byw. ond ti ddim yn arbennig o beryg, chwaith), a 'ma angen mwy o smyt cymraeg', gofies i ynglyn â prosiect sbesial yr haf, a'r ffaith fod raid i fi dynnu 'mys mas a'i drefnu fe. y bwriad ar hyn o bryd (er nad yw popeth yn sicir eto. cyffyrddwch â phob darn o bren i fi) fy mod yn teithio fel aelod o CSIF ('The Cambridge Sexual Identity Forum') i'r swisdir ddiwedd gorffennaf, gan deithio ogwmpas am wythnos (diolch i haelionni'r Undeb Ewropeaidd a Bwrdd Twristiaeth y Swisdir) a threulio wythnos wedyn yn Davon yn mynychu cynhadledd LBGT (Lesbian, Bisexual, Gay, Transgender) enfawr fel staff journalist. dwi'n edrych mlaen yn arw: fydd modd cael lliw haul yn y swisdir? yw e mor boring a ma pawb yn honni? mam, tisie i fi ddod a cwcw-gloc yn ôl i ti? fyddai'n cael fy nghamgymryd am lesbian am y canfed, milfed tro?

10.5.05

 

cyfri

wrth gau llwyth o hen ffenestri, nesi sylwi faint yn union o bynciau-blogs dwi di'u gadael ar eu hanner yn y pythefnos diwethaf. peth i wneud efo'r ffaith mod i

1. wedi datblygu 'cyfaint-consentrasiwn' byr eithriadol dros y ddwy flynedd ddiwethaf (dim gwobrau am gesio sut, cos dwi ddim yn gallu cofio... *hoho!*)

2. wedi bod yn eistedd ar fy soffa yn bwyta oatcakes ac yn darllen llyfrau amherthnasol neu tenuously perthnasol ambyti rhyw, ym, a vice am y canfed tro (gan freuddwydio y byddai, rhyw ddiwrnod, yn ymddangos yn yr adran 'DOs' *sniff/chwinci*). dweud y gwir, allai argymell 'Woman's Experience of Sex' (1983) gan Sheila Kitzinger (ll:face fooor ra-di-ooooo:ll). mae'n llawn diagramau o ddynion barfog, a pobol yn bwydo o'r fron, a lot o bethau diddorol eraill.

3. yn cadw fy holl egni ar gyfer sgrifennu adolygiad o Acoustic Ladyland, ac o Barbarella i Pictiwrs.com ella. dweud y gwir, dwi'n ecseited bost am Jane Fonda Season yn y Picturehouse dros y ffordd. hefyd yn eitha ecseited am y dewis o snacs (sy'n cynnwys crëëps efo enwau fel 'the big crêpeowski' a 'gone with the crêpe') fydd ar gael.

4. dair wythnos i ffwrdd o'n arholiadau cyntaf ers bron i ddwy flynedd, ac yn panicio braidd a swnian gormod...

3.5.05

 

arthur brown

mae 'ein prynwr' wedi surpasio'i hun unwaith eto mis yma, trwy fynd yn hollol ffycin mental. hwree!

1.5.05

 

tua pedwar bore ma...



...storm enfawr. neshi aros i wylio yn eistedd dop crât a gwrando ar serge gainsbourg, yn teimlo'n eitha smyg. a wedyn braidd yn clichéd. rwan braidd yn flinedig.

Archives

04.2005   05.2005   06.2005   07.2005   08.2005   09.2005   10.2005   11.2005   12.2005   01.2006   02.2006   03.2006   04.2006   05.2006   07.2006   08.2006   09.2006   12.2006   03.2007   11.2007   01.2008   02.2008   03.2008   04.2008   07.2008   10.2008  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]