reit. i ddechrau: gobeithio y cawsoch chi i gyd amser ffestiv dros yr wythnos ddiwethaf.
yr unig reswm yr es i ifewn i woolworth's ddoe oedd i twm gael prynnu losin "pic and mix" (roedd e di bod yn meddwl am y peth drwy'r dydd, mae'n debyg. 'kids' style', nid y lleill [sy'n haws eu dwyn i fwyta mas o'r siop. mae'r rhai plant yn well ar gyfer bwyta stealth-style mas o'r bag tra'n gwylio'r fideo JML invisible bra yng nghefn y siop]. ) ->hir stori byr, leic: brynnes i, mewn fflach o self-esteem isel iawn, fag mawr o "pic and mix" (2.40£) a "danniella westbrooks better body workout" (1.99£).
Uchod: Co Fe Y FideoEr bod ei golwg hi ar y clawr yn ymddangos braidd yn insincere a slightly mocking, roedd addewid y blwrb o "
fun and effective workout set to upbeat '80's style music" a'r pris isel (llai na bag o swîts cofiwch) yn ddigon. roedd presenoldeb amlwg loncwisgiau felw^r a'r gor-ddefnydd o ebychnodau hefyd yn apelio, nai ddim gweud celwydd.
Uchod: Fi Yn Pwmpio Haearn Yn Y GarejYn yr un segment o'r fideo lle nad yw 'Dan' (enw DYN tro diwethaf i fi "jecio") yn ymddangos yn rhy spangled i siarad, mae pwyslais y sgript ar helpu mamau prysur (neu rhai paranoid sy ond yn siarad â'u dealer a hynny trwy'r blwch post): "
Hi, I'm Danniella and being a mum means my time is precious" ag ati. nath hyn i fi deimlo'n anhyfforddus - fy obsesiwn dwys efo
diagnosis mwrdwr a dos ysgafn o narcolepsi yw'r unig bethau sy'n fy stopio rhag ymarfer fy nghorff, nid plant. eeniwe, ma'r teimlad ("feib" bydden i'n ei alw fe) epil-newydd-anedig-post-partum-pen-ol-sagi wedi'i bwysleisio gan bresenoldeb y trw^p "loncddawnsio" sy'n pwmpio yn y cefndir mewn ffordd braidd yn shambolic a ever-so-slightly fflabi. Hefyd, caiff y thema ei ddatblygu gan or-ddefnydd o'r cyhyrau 'pelfig-lawr' ac o'r gair '
buttocks' yn ystod y tâp.
Siom oedd y diffyg "banter" gan Danniella, a ro'n i'n teimlo'n gywilyddus braidd (nid yn unig oherwydd fy sefyllfa gyffredinol) o'i gweld hi'n piffian-chwerthin ar y camera a hanner-gweiddi "
It 'urts my legs" bod 10-15 munud. Teimlad tebyg (cymysgedd o regret, curiosity, shame, anallu i fynd i edrych yn y geiriadur am equivalents cymraeg) i pan ti'n rhoi pres i drempyn ti'n sicir sy'n mynd i fynd a gwario fe ar smac yn lle latte a bran-fwffin. Yn siarad ar ei rhan oedd ANNA DANIELS, rhyw fath o unholy hybrid rhwng Shan Cothi (gwallt, hubris) a Marjorie Dawes (casineb cyffredinol). Dyw'r ymarferion ddim yn rhy anodd - pedair rwtîn sy'n cymysgu bownsio 80aidd efo pseudo-self-defence. ww. ar y pwynt 'na: siom arall y fideo yw'r '
upbeat 80s style music'. cerddoriaeth yn y steil 'lifftborn' [think dating channel] yw e.
allai riportio, ar ol 75 munud o ymarfer (gan gynnwys twymo lan a cwlio lawr) bod yr ysfa i fwyta "pic and mix" wedi codi tua 15%, a bod y lefel o stiffrwydd corfforol di aros yn slei o isel am 12 awr - cyn ymddangos a chryfhau y diwrnod wedyn nes bo fi'n methu symud lot ar fy nghluniau (hence pam fethes i fynd i amddiffyn fy nheitl 'torddawnsiwr poethaf bro'r tincer' heddiw).
Mas o ddeg? 5 am y rwtîn, 7 am ddiffyg diddordeb amlwg Ms Westbrook. 5.5 am neud i fi deimlo'n stiff (achos amlwg o or-fotifeiddio yn ystod yr ymarferion cicio). so, mas o drideg a wedi rhannu efo tri (aka deg): 5.833333333 (recurring)eeniwe, chi'n cal y jist. sori am neud gormod o jocs am drug addicts. dyw e ddim yn ffyni, gais. "say no go", a ballu, ynte.